dimarts, 8 d’abril del 2008

Transformació 169: Gal·lès

Per Hilary Chapman

Cerddent yn araf. Gŵr dwys a difrifol oedd y talaf ohonynt, wedi'i wisgo'n drwsiadus, ac â barf lwyd a bochau cochion ganddo; edrychai'r llall, un main, heb eillio, fel petai'n ymadfer wedi salwch. Roeddynt ar ganol sgwrs ac o bryd i'w gilydd byddai'r gŵr tal yn aros gan dynnu ei law dros ei farf fel petai am bwyso'i eiriau'n ofalus.

-Mewn bywyd prif fod amser i bopeth. Chwerthin a chrio, cael hwyl a gwagswmera … ac ar union ddiwrnod eich geni rhaid ichi ymbaratoi i farw. Welwch chi, mae babanod yn eu clytiau am grio oherwydd maen nhw'n ei glywed yn barod.

-Yn clywed beth yn barod?

-Aroglau angau sydd o'n cwmpas ni ym mhobman… Mae dyn yn dod i arfer ag e ymhen amser...